Amdanom ni: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o \xc2\xa350 miliwn, sy\xe2\x80\x99n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff. Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref. Y r\xc3\xb4l: Fel aelod o D\xc3\xaem Datblygu\xe2\x80\x99r Gymraeg, bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ledled campysau Coleg Gwyr Abertawe, er mwyn meithrin ethos Gymraeg/dwyieithog. Yn ogystal, bydd angen i\xe2\x80\x99r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth i feysydd gwasanaeth ar weithredu Safonau\xe2\x80\x99r Gymraeg a nodi a lledaeni enghreifftiau o arferion gorau ar draws y Coleg o ran gweithredu Safonau\xe2\x80\x99r Gymraeg.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.