Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cynllun Graddedigion Dyfodol Mon - Cyfrifydd
Dyma gyfle unigryw fel rhan o Gynllun Graddedigion Dyfodol Mon i ddatblygu sgiliau/gwybodaeth er mwyn galluogi'r unigolyn i sicrhau rheolaeth ariannol effeithiol; sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon a chydag uniondeb; a helpu i lywio polisi ariannol y Cyngor. Mae hyn yn golygu gweithio'n agos a chydweithwyr mewn adrannau eraill er mwyn asesu a chymhathu eu hanghenion ariannol. Y math o dasgau sydd dan sylw yw:- Paratoi amcangyfrifon a chyfrifon terfynol; Archwilio Mewnol; dylunio a gweithredu systemau ariannol a rheoli gwybodaeth ac ati. Cyllidebol a Monitro Cyllidebau.
Cynllun Graddedigion Dyfodol Mon -
Datblygu Economaidd
Dyma gyfle unigryw o dan y Cynllun i Raddedigion, Dyfodol Mon i ddatblygu sgiliau a phrofiad ym maes Datblygu Economaidd ar Ynys Mon, ynghyd a chyfle i ennill cymhwyster ol-raddedig tra'n ennill profiad ymarferol. Mae'r Gwasanaeth yn arwain nifer o raglenni a phrosiectau amrywiol, a bydd deiliad y swydd yn rhan o dim sy'n arwain y gwaith hwn.
Cynllun Graddedigion Dyfodol Mon
- Peiriannydd Dylunio Trydanol
Dyma gyfle unigryw dan y Cynllun i Raddedigion, Dyfodol Mon i ddatblygu sgiliau a phrofiad ym maes Dylunio Trydanol ar Ynys Mon.
Bydd deiliad y swydd yn cydlynu a'r Uwch Beiriannydd Trydanol, Penseiri'r Cyngor a chydweithwyr eraill i gynnal a chadw a gosod systemau trydanol a mecanyddol yn adeiladau'r Cyngor ac yn gweithio tuag at ennill gradd BEng.
Bydd deiliad y swydd yn datblygu arbenigedd academaidd ac ymarferol ym maes Peirianneg yn y Gwasanaethau Adeiladau er mwyn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddylunio, gosod a chynnal a chadw systemau trydanol, goleuadau, monitro adeiladau, rheoli gwres a cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Bydd cyfleoedd datblygu pellach ar gael i ddeiliad y swydd.
Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth yn ogystal a'r sgiliau iaith Gymraeg sy'n berthnasol i'r swydd hon.
Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg neu'r Saesneg wastad yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r manyleb person i'ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion cyswllt
Enw:
Elen Pritchard
Cyfeiriad e-bost:
ElenPritchard@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100359
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.