Bydd y rol yn canolbwytnio ar ddarparu gwasanaeth ymweld cynhwysfawr i bobl h?n gan:-
Hyrwyddo, cefnogi a galluogi byw'n annibynnol i gleientiaid, ar faterion sy'n cynnwys atgyweirio tai, cynnal a chadw, cyllid ar gyfer gwaith, gwelliannau neu addasiadau i'w cartrefi a thrwy hynny, eu galluogi i aros yn eu cartrefi yn gysurus ac yn ddiogel.
Ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth holistig o ansawdd uchel yn ymweld a chartrefi, yn cael ei arwain gan broblemau ac sydd wedi'i deilwra yn unol ag anghenion unigolyn.Trafod materion tai a meysydd sy'n peri pryder i'r unigolyn ynghylch diogelwch, iechyd a lles, uchafu incwm, tlodi tanwydd, cwympiadau a diogelwch.
Cefnogi nodau ac egwyddorion Gofal a Thrwsio, gan sicrhau bod pob cleient yn cael cynnig gwasanaeth cyfrinachol o ansawdd uchel, sy'n briodol i'w hanghenion.
Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl h?n yn byw mewn cartrefi sy'n gwella ansawdd eu bywyd.
Mae
Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych
yn sicrhau bod anghenion pobl h?n neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau ai bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth a sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill a chyfeirio ar draws pob gwasanaeth.
Llinell strap ein Asiantaeth yw: Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd syn cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:-
I alluogi pobl h?n neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel
Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:-
Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol syn; gwella ansawdd bywyd pobl h?n neu fregus
Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Gr?p Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015: Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisiau personel blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.