Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru'n Gweithio.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd a gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw - ac, wrth gwrs, dyna'r peth cywir i'w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy'n gynrychioliadol o'r dinasyddion rydyn ni'n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo'u gradd.
Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.